SL(5)402 – Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019 (Rheoliadau 2019), i roi 'perchennog' yn lle 'person cyfrifol' yn rheoliad 8.  Mae'r Rheoliadau hyn yn sicrhau bod y system adnabod ceffylau a nodir yn Rheoliad 2015/262 yn gweithredu'n effeithiol yng Nghymru.  Mae'r system hon yn cynnwys gofynion mewn perthynas ag adnabod ceffylau a'r ddogfen adnabod mewn perthynas â cheffyl, marcio ceffylau trwy gyfrwng trawsatebydd, a chronfa ddata ganolog. 

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Gwnaed y Rheoliadau ar 19 Mawrth, fe’u gosodwyd ar 20 Mawrth a byddant yn dod i rym ar 28 Mawrth 2019. Felly, maent yn torri'r rheol 21 diwrnod yn adran 11A(4) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946.

Mae paragraff 2 o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi fel a ganlyn:

The SI is being laid under the ‘Negative Procedure’ with deviation from the standard 21 day laying period. Breaching the 21 day rule will allow the Regulations to come into force before the 29th March when the UK withdraws from the EU, and on which date the 2019 Regulations will also be subject to amendment by the Equine Identification (Wales) (Amendment) (EU Exit) Regulations 2019 in order to ensure the effective operation of the Regulations following withdrawal of the UK from the EU. A breach of the 21 day rule is therefore thought necessary and justifiable in this case....

Mewn llythyr dyddiedig 20 Mawrth 2019, dywedodd Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wrth y Llywydd ei bod wedi bod yn angenrheidiol torri’r rheol 21 diwrnod i ganiatáu i'r Rheoliadau ddod i rym cyn 29 Mawrth pan fydd y DU yn ymadael â’r UE, ac ar ba ddyddiad y bydd Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019 hefyd yn cael eu diwygio gan Reoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol y Rheoliadau yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

Nodwn esboniad y Llywodraeth am dorri'r rheol 21 diwrnod yn yr achos hwn. Ar y cyfan, rydym o'r farn ei bod yn bwysig sicrhau bod y diwygiad hwn yn cael ei wneud i'r ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl, a chyn i'r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

 

 

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Gwnaed Rheoliadau 2019 ar 15 Ionawr 2019 a'u gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 17 Ionawr 2019.  Ar 30 Ionawr, nododd y Pwyllgor un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2(v) (am unrhyw reswm penodol mae angen eglurhad pellach ar ei ffurf neu ystyr) mewn perthynas â Rheoliadau 2019[1]. Cytunodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y byddai Offeryn Statudol sy'n cael ei ddiwygio yn cael ei ddrafftio a oedd yn rhoi 'perchennog' yn lle 'person cyfrifol' yn rheoliad 8 o Reoliadau 2019.  Mae'r newid hwn yn mynd i'r afael â'r pryder a fynegwyd gan y Pwyllgor. Rydym yn falch bod y Gweinidog wedi cytuno y byddai diwygiad i Reoliadau 2019 yn fuddiol, a bod yr offeryn diwygio wedi'i osod o fewn dau fis i dderbyn adroddiad y Pwyllgor.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a geir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a byddant yn dod yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar y diwrnod ymadael.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

27 Mawrth 2019



[1] Hynny oedd bod Rheoliad 8 o Reoliadau 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog ofyn i'r corff dyroddi addasu neu ddiweddaru dogfen adnabod ceffyl, os oedd y person cyfrifol (y perchennog neu'r ceidwad) yn credu bod angen addasu neu ddiweddaru unrhyw fanylion adnabod a gynhwysir yn nogfen adnabod y ceffyl. Mewn achosion lle nad y person cyfrifol yw'r perchennog (ond y ceidwad), efallai bod posibilrwydd na fyddai perchennog yn ymwybodol o gred y ceidwad bod angen diwygio'r ddogfen adnabod. Felly, roedd posibilrwydd i berchennog gyflawni trosedd, a chael ei gosbi am y drosedd honno, hyd yn oed pan nad oedd y perchennog yn gwybod, ac efallai na allai wybod, bod angen diwygio dogfen adnabod y ceffyl.